Mae diweithdra yng Nghymru wedi syrthio 0.6 y cant, datgelwyd heddiw.
Syrthiodd diweithdra 9,000, i 115,000, neu 7.9% o’r boblogaeth, yn ystod y chwarter diwethaf.
Roedd cwymp o 3,000 i 483,000 yn nifer y rheini oedd yn segur yn economaidd, rhwng mis Mawrth a Mai, ac fe gynyddodd nifer y rheini mewn gwaith 0.6% i 68.5%.
Ar draws Prydain cynyddodd nifer y bobol mewn gwaith 50,000 i 19.28miliwn, sydd 293,000 yn is na’r pegwn cyn y dirwasgiad.
Ond er gwaetha’r cwymp mewn diweithdra gwelodd Ynysoedd Prydain y cynnydd mwyaf yn nifer y bobol ar y dôl ers mwy na dwy flynedd.
Mae’r ffigyrau newydd hefyd yn awgrymu fod mwy o bobol nag erioed yn gweithio’n rhan amser am and ydyn nhw wedi gallu dod o hyd i waith llawn amser.
Roedd 80,000 yn rhagor yn gweithio’n rhan amser, i 1.25 miliwn, y ffigwr uchaf ers 1992.
Roedd cyfanswm o 1.52 miliwn o bobol yn hawlio’r dôl fis diwethaf, cynnydd o 24,500 o fis Mai a’r cynnydd misol mwyaf er mis Mai 2009.
Syrthiodd nifer y bobol ddi-waith 26,000 yn y chwarter diwethaf i 2.45 miliwn, ond cynyddodd nifer y bobol sydd wedi bod yn ddi-waith am hyd at flwyddyn 11,000.
Ymateb yng Nghymru
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu cwymp mewn diwethdra yng Nghymru.
“Mae cyflogaeth yng Nghymru yn parhau i fynd i’r cyfeiriad cywir,” meddai. “Mae’n dangos fod polisïau’r Llywodraeth yn llwyddo i adfer swyddi yng Nghymru.
“Mae ein newidiadau i fudd-daliadau hefyd yn dangos fod gwaith yn talu ei ffordd.
“Ond allen ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau. Rhaid rhoi blaenoriaeth i adfer y sector breifat yng Nghymru er mwyn creu swyddi.
“Fe fyddwn ni’n parhau i gyd-weithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau dyfodôl economaidd fel bod diweithdra a segurdod economaidd yng Nghymru yn parhau i ddisgyn.”
Ymateb yr undebau
Dywedodd Paul Kenny, ysgrifennydd cyffredinol undeb y GMB, nad oedd yr ystadegau yn cynnig unrhyw obaith i bobol oedd yn ddi-waith.
“Mae’r rheini sy’n colli eu gwaith yn y sector gyhoeddus yn mynd ar y dôl,” meddai.
“Dylai’r Llywodraeth sylweddoli eu bod nhw wedi tynnu eu troed oddi ar y sbardun yn rhy gynnar a bod hynny wedi arafu’r adferiad economaidd.
“Fe ddylai’r llywodraeth dorri TAW i 17.5%. Dyw hi ddim yn bosib ysgogi twf yn yr economi a thorri’n ôl yr un pryd.”