Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar Ben Llŷn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn Pentre Uchaf ar y B4354 rhwng Y Ffor a Nefyn tua 3.13pm ddoe.

Galwyd y gwasanaethau brys ond fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle. Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn ddyn lleol.

“Cafodd y gwasanaethau brys wybod am wrthdrawiad difrifol rhwng dau gerbyd am 3.13pm ddydd Mawrth,” meddai llefarydd ar ran y gwasanaethau brys.

“Cafodd criwiau o Bwllheli a Nefyn eu galw i roi cymorth i’r heddlu.”

Mae’r heddlu wedi galw ar unrhyw un a welodd yr wrthdrawiad i roi gwybod. Dylen nhw ffonio 101.