Mae tîm arbennig o uwch swyddogion addysg wedi’u galw i fynd i’r afael â diffygion mewn ysgol ym Mhowys.

 Fe fydd mesurau arbennig yn cael eu cyflwyno yn Ysgol Maesydre, ysgol gynradd yn Y Trallwng, ar ôl arolwg beirniadol gan Estyn fis Mai.

 Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nodweddion da ond yn dweud bod “nifer sylweddol” o nodweddion yn “ddigonol neu’n anfoddhaol.”

 Mae hyn wedi arwain arolygwyr i ddod i gasgliad fod perfformiad yr ysgol ar hyn o bryd – a gallu’r ysgol i wella – yn anfoddhaol.

 “Fe fyddwn ni’n gweithio gyda chorff  Llywodraethol yr ysgol i ddeall y rhesymau dros gasgliad yr arolwg ac i sicrhau ein bod yn cyflawni gwelliannau i’r ysgol,” meddai’r Cynghorydd Stephen Hayes sy’n gyfrifol am Addysg a Hamdden.

 Bydd cynlluniau gweithredu ffurfiol yn cael eu llunio gan yr ysgol a’r cyngor i bennu camau i’w cymryd i fynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd.

Bydd Estyn yn monitro’r ysgol bob tymor hyd nes y bydd yn fodlon nad yw’r categori mesurau arbennig yn angenrheidiol mwyach.