Fe fydd pob un o brifysgolion Cymru'n cael codi ffioedd o hyd at £9,000 o fis Medi ymlaen
Mae’r ffordd yn glir bellach i 13 o brifysgolion a cholegau yng Nghymru gael codi ffioedd o hyd at £9,000 ar fyfyrwyr o fis Medi nesaf ymlaen.

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru – HEFCW – wedi cymeradwyo cynlluniau dadleuol y sefydliadau, sy’n cynnwys holl brifysgolion Cymru, i gynyddu ffioedd.

Fe fydd y lefelau cyffredinol o ffioedd yn dechrau ar £3,850 ar gyfer rhai cyrsiau HND, ac yn amrywio o £5,850 i £9,000 ar gyfer cyrsiau gradd israddedig amser-llawn a chyrsiau Tystysgrif Addysg i Raddedigon.

Fel rhan o’r cytundeb sydd wedi cael ei gymeradwyo heddiw, mae’r sefydliadau addysg wedi ymrwymo i gymryd camau penodol gan gynnwys:

* amrywiaeth o fwrsarïau i fyfyrwyr o deuluoedd ar incwm isel neu o gefndiroedd difreintiedig

* mentora a chodi dyheadau myfyrwyr posibl mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan gynnwys dysgwyr aeddfed;

* darparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg;

* gwella sgiliau a phrofiad gwaith myfyrwyr i gynyddu eu rhagolygon gwaith; a

* gwella cyfleusterau TGCh a llyfrgell.

Buddsoddi

Meddai’r Athro Philip Gummett, Prif Weithredwr CCAUC: “Mae’n amlwg o’r cynlluniau ffioedd y bydd y sefydliadau’n defnyddio canran uchel o’u hincwm ychwanegol er budd eu myfyrwyr, o fwrsarïau i fyfyrwyr o gymunedau dan anfantais i fuddsoddi mewn technoleg newydd.

“Mae addysg uwch yn fuddsoddiad rhagorol. Ac mae’r sefydliadau wedi dangos i ni fod gwella profiad y myfyrwyr yn ganolog i’r cynlluniau hyn, a chredwn y bydd modd trosi eu cynigion yn weithgareddau llwyddiannus o’r flwyddyn nesaf ymlaen.”

Er y bydd ffi a godir am gwrs yr un fath ar gyfer israddedigion amser-llawn o unrhyw wlad ym Mhrydain neu’r Undeb Ewropeaidd, fe fydd myfyrwyr sydd fel rheol yn byw yng Nghymru yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru am gost eu ffi dros £3,465. Mae hyn yn wir lle bynnag y byddan nhw’n dewis astudio o fewn Prydain.

Y Cefndir

Roedd HEFCW wedi hysbysu’r holl sefydliadau ynghynt, ar 10 Mehefin, nad oedd y cynlluniau fel yr oedden nhw’r wreiddiol yn bodloni’r gofynion angenrheidiol, ac wedi gofyn iddyn nhw wneud gwaith pellach arnyn nhw..

Fe fu’r holl sefydliadau’n trafod â HEFCW drwy gydol mis Mehefin i sicrhau bod eu cynigion i ehangu mynediad, sicrhau cyfle cyfartal a hybu addysg uwch yn ddigon uchelgeisiol.

Fe gafodd un cynllun, gan Goleg Castell-nedd Port Talbot, ei wrthod gan na chafodd y cynllun terfynol, wedi’i gymeradwyo gan y llywodraethwyr, ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau.

Mae hyn yn golygu mai’r mwyafswm y gall y coleg hwnnw ei godi yw’r gyfradd ffi sylfaenol o £4,000 ar gyfer addysg uwch israddedig amser-llawn yn 2012/13, oni bydd yn gofyn am adolygiad o’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru, erbyn 20 Awst.