Mae cynlluniau am ysgol newydd i gymryd lle adeilad presennol Ysgol Gymraeg Treganna yng Nghaerdydd wedi symud gam yn nes.
 
Ar ôl cyfnod o ymgynghori statudol, ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i symud yr ysgol fel ysgol tair ffrwd mynediad gyda meithrinfa i adeilad newydd ar Sanatorium Road. Mae’r cynllun hefyd yn golygu cau Ysgol Tan-yr-Eos gyda’r disgyblion yn symud i adeilad Ysgol Treganna ar y safle newydd.
 
Y cam nesaf fydd cael cymeradwyaeth cabineb Cyngor Caerdydd i roi’r cynllun ar waith erbyn 1 Medi 2013.
 
Mae’r cynllun mewn ymateb i’r cynnydd yn y galw am lefydd cynradd cyfrwng Cymraeg yn y rhan hon o’r ddinas. Dywed y cyngor na fydd unrhyw ddarpariaeth cyfrwng Saesneg sy’n bodoli ei chau na’i lleihau o ganlyniad i’r cynnig hwn.
 
“Dyma gam mawr ymlaen yn ein cynlluniau i symud Ysgol Treganna i adeilad newydd sbon cyfoes,” meddai’r Aelod Gweithredol dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Cynghorydd Freda Salway.
“Bydd ysgol tair ffrwd mynediad newydd yn lleddfu’r problemau gorlenwi yn yr ysgol bresennol ac yn darparu amgylchedd i’r plant sy’n addas i ddysgu.”