Jocelyn Davies
Mae Llywodraeth Cymru’n gorfod gwario arian yn ddiangen ac mewn peryg o fethu ag ymateb i achosion brys oherwydd rheolau ariannol Llywodraeth Prydain.

Dyna farn un o bwyllgorau’r Cynulliad sy’n dweud bod angen ail drafod y berthynas er mwyn cael mwy o hyblygrwydd.

Fel arall, meddai Pwyllgor Ariannol y Cynulliad, fe fydd Llywodraeth Cymru’n colli miliynau o bunnoedd trwy orfod gwario arian wrth gefn ac yn cael ei gwthio i wastraffu arian hefyd.

Maen nhw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau trafod gyda’r Trysorlys yn Llundain er mwyn llacio’r rheolau – mewn cyfnod o ddirwasgiad, medden nhw, mae hynny’n bwysicach nag erioed.

Y broblem

Y broblem, yn ôl y Pwyllgor, yw’r System Cyfnewid Cyllideb, sy’n rheoli’r defnydd o arian sydd tros ben ar ddiwedd blwyddyn.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru roi gwybod ymlaen llaw os ydyn nhw’n meddwl y bydd arian ar ôl heb ei wario.

Er mwyn cael ei gario ymlaen i’r flwyddyn ariannol wedyn, mae’n rhaid rhoi’r wybodaeth erbyn mis Tachwedd, chwe mis cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Fel arall, fe fydd unrhyw arian dros ben yn mynd yn ôl i’r Trysorlys.

Mae hynny’n llawer rhy gynnar, meddai’r Pwyllgor a’r canlyniad, yn ôl y Cadeirydd, Jocelyn Davies, yw fod Llywodraeth Cymru’n gorfod gwario arian wrth gefn i ymateb i achosion brys, neu’n gwario ar bethau diangen er mwyn defnyddio arian.