Mae dyn 32 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan fws mini gerllaw’r Fenni yn gynnar heddiw.

Roedd yn un o dri o ddynion yn cerdded ar hyd yr hen ffordd B4598 o’r Fenni i Raglen, yng nghyfeiriad y Bont Gadwyni tua 3 o’r gloch y bore. Wrth iddyn nhw droi i ffordd Brynbuga cafodd un o’r dynion ei daro gan fws mini.

Cafwyd y dyn 32 oed, a oedd yn dod o ardal Rhisga, yn farw y fan a’r lle.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth a all eu helpu gysylltu â nhw ar 01633 642404 neu 101.