Mae tri o Gymry, gan gynnwys dirprwy arweinydd Plaid Werdd Cymru, ymhlith 12 o Brydeinwyr sy’n cael eu cadw yn y ddalfa yn Israel.

Roedden nhw ar eu ffordd i Fethlehem ar lan orllewinol yr Iorddonen, fel rhan o ymweliad wedi ei drefnu gan grwpiau cefnogi hawliau’r Palesteiniaid. Roedd 700 o bobl o bob rhan o’r byd yn bwriadu ymweld â Bethlehem ar wahoddiad teuluoedd yno.

Y tri o Gymru a gafodd eu harestio yw Pippa Bartolotti, dirprwy arweinydd Plaid Werdd Cymru, Dee Murphy, 56 o Abertawe, un o sefydlwyr Dolen Gymunedol Palesteina Abertawe, a Joyce Giblin.

Yn ôl y trefnwyr y daith ym Mhrydain, cafodd y 12 eu harestio pan gyrhaeddon nhw faes awyr Ben Gurion yn Tel Aviv ddoe.

Dyw hi ddim yn glir eto beth yw’r union gyhuddiadau yn eu herbyn.

Meddai Sofiah Macleod, ar ran y trefnwyr: “Fe wnes i siarad â staff llysgenhadaeth Prydain y bore yma, a ddywedodd iddyn nhw gael eu trin yn bur arw wrth gael eu harestio.

“Fe gawson nhw eu llawgyffio a’u rhoi i sefyll am amser hir mewn faniau, ac mae llawer ohonyn nhw’n bobl wedi ymddeol. Ond fel arall, mae’n nhw’n iawn.”

Dyweddodd y dylai teithio i’r Lan Orllewinol fod yn agored i ddeilwyr pasportau Prydeinig, yn wahanol i lain Gaza, sydd o dan flocâd gan Israel.

Meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym wedi derbyn adroddiadau o nifer o Brydeinwyr yn cael eu cadw yn y maes awyr yn Tel Aviv.

“Mae gennym dîm o’n llysgenhadaeth yn y maes awyr sy’n ceisio cael atyn nhw er mwyn sicrhau y gallwn gynnig y cymorth priodol.”