Clawr un o gasetiau gwreiddiol y Dr Hywel Ffiaidd
Fe fydd y cymeriad pync-rocaidd Dr Hywel Ffiaidd yn cael ei atgyfodi yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam y mis nesaf.

Cafodd y cymeriad ei greu gan y canwr-actor lleol Dyfed Tomos o Rosllanerchrugog ar gyfer cyflwyniad mewn sioe-gerdd y tro diwethaf yr oedd yr Eisteddfod yn Wrecsam yn 1977. Hwn fydd y tro cyntaf i Dyfed Tomos berfformio yn ei ardal leol ers hynny.

Fe fu’r Dr Hywel Ffiaidd wedyn yn cynnal gigs am bum mlynedd ledled Cymru, ac yn 1978, bu’n rhaid gohirio un rhifyn o’r rhaglen bop ‘Twndish; ar y teledu oherwydd ‘iaith anweddus’ gan Hywel Ffiaidd.

Ymysg ei ganeuon o’r dyddiau hynny roedd cân arbennig i’r Tywysog Charles ar adeg ei briodas yn 1981 – ac eleni fe fydd yn canu cân newydd i’r mab William ar adeg ei briodas yntau. Fe fydd plant Dyfed a’u ffrindiau (sy’n galw eu hunain yn “Plant Ffiaidd”) hefyd yn cymryd rhan yn y gig.

“Mi fydd ‘Plant Ffiaidd’ yn agor gyda thair cân yn eu steil cyfoes nhw, cyn i ‘Mad Ed’ a Dafydd Pierce (aelodau gwreiddiol o’r band Dr Hywel Ffiaidd) ymuno,” meddai Dyfed Tomos.

“Mae’r set yn gymysgedd o ganeuon gwleidyddol fel ‘Gwneud Dim’ a chaneuon newydd sy’n cyfeirio at gymeriadau hoffus fel Thatcher a Blair yn ogystal a Will a Kate a llawer o rai eraill!”

Fe fydd y Dr Hywel Ffiaidd ar ei newydd wedd i’w weld yn ‘Noson o Deyrnged’ Cymdeithas yr Iaith i’r ‘Tywysog Williams a’i Deulu’ nos Lun 1 Awst yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam.