Y cynghorydd Dyfrig Jones o Fethesda
 Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gollwng achos yn erbyn cynghorydd o Wynedd a oedd mewn helynt oherwydd lluniau o blant a oedd wedi eu postio ar y wefan Facebook.

 Roedd Dyfrig Jones, sy’n cynrychioli ward Gerlan, Bethesda, dros Blaid Cymru, wedi cael gwys i ymddangos o flaen Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth nesaf. Ond cafodd wybod ddoe fod na fydd yr achos yn mynd ymlaen oherwydd diffyg tystiolaeth.

 “Ers i’r honiadau hyn gael eu gwneud yn fy erbyn, rwyf wedi datgan yn gwbl glir fy mod yn ddi-euog o unrhyw drosedd,” meddai Dyfrig Jones.

 “Diolchaf fod synnwyr cyffredin wedi enill y dydd, a bod fy ffydd yn y system droseddol wedi ei wobrwyo. Rwyf llawn mor sicr y bydd ymchwiliad Ombwdsmon Cymru yn dod i’r un casgliad – sef nad wyf wedi gwneud unrhyw beth o’i le.”

 Roedd wedi cael ei gyhuddo o dan adran 1 Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 ar ôl i gŵyn swyddogol gael ei gwneud am luniau o blant a oedd wedi ymddangos ar Facebook.

 Mae hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn aelod o awdurdod S4C.