Mae rheithgor wedi clywed honiadau heddiw fod swyddogion yr heddlu wedi pwyso ar dystion allweddol wrth ymchwilio i lofruddiaeth putain, er mwyn difrïo pum dyn roeddan nhw am eu beio ar gam am y drosedd.

Cafodd y llys glywed bod tactegau’r ditectifs – sy’ bellach wedi ymddeol – yn cynnwys bygwth rhoi plant un ddynes mewn gofal, dangos llun o gorff clwyfedig y butain farw i gydweithiwr un o’r dynion dan amheuaeth, a dal un tyst am bump awr er mwyn iddi “fodloni ar arwyddo unrhyw bet her mwyn cael gadael yr orsaf”.

Cafodd tri dyn dieuog eu carcharu am ladd y butain Lynette White yn 1988. Roedd wedi ei thrywanu â chyllell dros 50 o weithiau yn ei fflat ym Mae Caerdydd ar Ddydd Sant Ffolant.

Cafodd Stephen Miller, Yusef Adullahi a Tony Paris eu dedfrydu i garchar am oes yn 1990 mewn achos drwgenwog o anghyfiawnder troseddol.

Dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd euogfarn y tri eu gwrthod yn y Llys Apêl.

Chafodd y llofrudd go-iawn – Jeffrey Gafoor – mo’i arestio hyd nes 15 mlynedd yn ddiweddarach ac yn 2003 cafodd ei ddedfrydu i oes o garchar.

Dros ddau ddegawd ers y llofruddiaeth, roedd wyth o gyn-swyddogion yn y doc yn Llys y Goron Abertawe heddiw i wynebu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder, yn yr achos mwya’ o’i fath yn hanes troseddol Ynysoedd Prydain.

Mae nhw’n wynebu’r cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Ac mae dau nad oedd yn heddweision, yn wynebu cyhuddiad o ddweud celwydd wrth lys.

Mae pob un o’r deg diffynnydd yn gwadu’r cyhuddiadau.