Safle i'r gorllewin o Gaerfyrddin, lle mae bwriad i godi tai.
 
Mae pryderon bod cynllun i godi miloedd o dai yn Sir Gaerfyrddin yn mynd i arwain at Seisnigo’r ardal sydd gyda’r nifer uchaf o siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru.

Ond mae’r cyngor sir yn bendant bod angen codi 11,200 o anheddau ychwanegol erbyn 2016.

Yn ôl y Cynghorydd Alun Lenny nid oes galw am y tai newydd hyn, am nad oes unrhyw gynnydd  naturiol ym mhoblogaeth y sir.

Bydd rhagor o dai yn cael eu llenwi gan bobol ddŵad meddai.

“Mae’r ratio geni/marw yn 0% yma,” meddai cyn ychwanegu bod hynny yn neges “glir ac amlwg”.

“Mae’n amhosibl gorbwysleisio pwysigrwydd hyn i ddyfodol y Gymraeg yn Sir Gâr,” ychwanegodd y Cynghorydd Tref.

Ond mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn rhagweld cynnydd yn y boblogaeth a mwy yn dewis byw ar eu pen eu hunain, a dyma yw eu sail dros fod eisiau caniatau codi mwy o dai.

Daw’r ffrae yn sgil protest yn Rhuthun ddydd Sadwrn diwetha’ am gynlluniau i godi miloedd o dai yn y gogledd, gydag ymgyrchwyr a gwleidyddion yn rhybuddio mai tai i bobol o’r tu allan fydden nhw.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn grediniol fod angen cynllunio i godi’r tai yma.

“Mae’n hollbwysig bod gynnon ni drefn sy’n cael ei harwain gan gynllunio er mwyn gosod y fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau,” meddai llefarydd.

Amau amseru’r ymgynghoriad

Yn ôl Alun Lenny mae ymgynghoriad Cyngor Sir Gaerfyrddin ar y cynllun tai dadleuol yn “ymgais sinigaidd a hollol fwriadol” i “sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bobl yn gwrthwynebu’r cynllun” oherwydd ei fod yn digwydd adeg gwyliau’r Haf.

Fe wnaeth Cyngor Sir Gaerffydin ddechrau’r cyfnod ymgynghorol i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y 6ed o Orffennaf. Y cynllun hwn fydd yn amlinellu lle dylid codi tai yn y sir o 2013 ymlaen. Mae’n canolbwyntio ar Gaerfyrddin, Llanelli, Rhydaman a Cross Hands.

Mae’r cynllun yn cynnwys defnyddio tua 320 erw o dir amaethyddol er mwyn adeiladu 1,200 o dai newydd. Mae’r safle ar gaeau gwyrdd i’r gorllewin o’r dre, ar y llethrau rhwng Parc Dewi Sant a ffordd ddeuol yr A48, ar hyd glannau Nant Tawelan.

Bydd y cyfnod ymgynghorol yn dod i ben Awst 19. Yn y cyfamser, bydd arddangosfeydd lleol yn cael eu cynnal mewn tua 10 lle ar draws y sir a chyfle i’r cyhoedd roi sylwadau a barn ar  y cynllun cyn Awst 19. 

 “Dw i’n credu fod amseriad yr ymgynghoriad a’r dyddiad cau derbyn sylwadau canol y gwyliau Haf yn ymgais sinigaidd, hollol fwriadol gan y Cyngor Sir i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bobl yn gwrthwynebu’r cynllun,” meddai’r cynghorydd tref Alun Lenny wrth Golwg360 gan ddweud mai dyma fydd y “penderfyniad pwysicaf i ddyfodol Sir Gâr”.

“Mae gan hwn y potensial i gael effaith ddifrifol iawn ar yr iaith Gymraeg,” meddai cyn mynd ati i son am y cynllun iaith newydd tair blynedd y mae’r Cyngor wedi’i sefydlu eleni.

“Maen nhw’n ymfalchïo mewn ateb y ffon yn ddwyieithog a chael arwyddion Cymraeg. Ond, yn hybu polisïau cynllunio sy’n bygwth holl ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw mewn sir sydd â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg,” meddai.

“Dw i’n annog pobl Caerfyrddin i fynd i’r cyfarfodydd cyhoeddus  lleol ac i wneud yn siŵr bod y Cyngor yn cael gwybod eu barn yn  glir,” meddai’r cynghorydd  gan son am yr amseru fel “ymylu ar fod yn wrth-ddemocrataidd.

 “Os bydd y math yma o ddatblygiad yn parhau, bydd dim Cymry werth son amdani yma erbyn 2030, dim Cymry fel rydan ni’n ei nabod hi”.