Mae dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi’u harestio heddiw am beintio’r glogan ‘ACHUB S4C’ ar furiau adeilad y BBC yn White City Llundain.

Cafodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a Chris Griffiths o Blaendulais eu harestio heddiw am eu gweithred “i ddangos eu pryder am sefyllfa S4C”.

Bu protestio brwd a thorcyfraith ers i’r BBC gytuno i ariannu S4C fel rhan o ddêl sy’n golygu cwtogi ar gyllideb y Sianel yn sylweddol.

 “Rydyn ni wedi bod yn cynnal ymgyrch i sicrhau dyfodol S4C dros y misoedd diwethaf. Ymgyrch hynod boblogaidd sydd wedi ennill cefnogaeth traws-doriad eang o bobl. Nid oes neb yn cytuno gyda chydgynllun y BBC a’r Llywodraeth,” meddai Bethan Williams.

Fe ddywedodd y Cadeirydd “nad ar chwarae bach” y mae wedi gweithredu yn y “fath fodd difrifol,” gan ychwanegu bod y weithred yn “dangos ein bod ni o ddifrif am achub ein Sianel ac nad ydym am ildio i eiriau gwag y sefydliadau mawr yma”.

“Rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro ar y Llywodraeth a’r BBC i roi’r gorau i’w trafodaethau am y Sianel er mwyn gallu cynnal arolwg llawn o’r Sianel ar sail hynny, yn lle rhuthro cynlluniau munud olaf heb ymgynghoriad llawn gyda phobl yng Nghymru.

“Dydyn nhw ddim wedi bod yn gwrando felly dyma ddod a’n neges atyn nhw yn hollol glir a diamwys fod pobl Cymru yn poeni am ddyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg,” ychwanegodd.