DJ Tommo yn dathlu
 
Mae DJ sioe frecwast Radio Ceredigion wedi ei orseddu yn Gyflwynydd Radio’r Flwyddyn ar gyfer gorsafoedd sy’n gwasanaethu hyd at 300,000 o bobol.

 Roedd Pixie Lott a Beverley Knight yn canu yn y seremoni wobrwyo yn Llundain, a rhoddwyd y wobr i Tommo gan y newyddiadurwr John Suchet, sy’n frawd mawr i David Suchet yr actor wnaeth bortreadu Poirot ar y teledu.

“Fedra i ddim credu’r peth,” meddai Tommo.

“Ddeng mlynedd yn ôl roeddwn yn dosbarthu’r post yn Aberteifi a nawr rwy’n brif gyflwynydd radio Prydain.

“Fedra i ddim aros i ddychwelyd tu ôl i’r meicroffôn a rhannu’r wobr hon gyda phawb sy’n gwrando ar fy sioe.”