Mae yna bryder y bydd cynnydd mawr ym mhris siocled ar ôl anghydfod gwleidyddol yn y Traeth Ifori.

Y Traeth Ifori sy’n cynhyrchu traean o hadau coco’r byd ond mae’r arlywydd-etholedig wedi gwahardd allforio am fis er mwyn annog y cyn-arlywydd i roi’r gorau i’w swydd.

Yn Llundain cynyddodd pris tunnell o goco i $2,225 – cynnydd o 4% – sydd wedi arwain at bryderon y bydd pris siocled yn cynyddu hefyd.

Mae pris coco yn cyfrif am tua chwarter pris bar o siocled.

Enillodd Alassane Ouattara etholiadau’r wlad ar 28 Tachwedd ond mae ei wrthwynebydd Laurent Gbagbo yn dal i reoli’r fyddin a’r sector gyhoeddus.

Galwodd Alassane Ouattara ar fusnesau sy’n gwerthu coco i roi’r gorau i allforio’r hadau er mwyn rhoi pwysau ar Laurient Gbagbo i roi’r gorau iddi.