Fe fydd y dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Joanna Yeates yn ymddangos o flaen llys heddiw.

Bydd Vincent Tabak, 32 oed, sy’n beiriannydd o’r Iseldiroedd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Bryste wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.

Mae arbenigwyr wedi bod yn archwilio’r fflat y mae Vincent Tabak yn ei rannu gyda’i gariad Tanja Morson ar 44 Ffordd Canynge, Clifton, Bryste. Mae’r fflat drws nesaf i’r fflat yr oedd Joanna Yeates yn ei rannu gyda’i chariad Greg Reardon, 27.

Fe aeth Jo Yeates ar goll ar 17 Ragfyr ar ôl bod am ddiod i’r dafarn gyda ffrindiau o’r cwmni pensaernïol ble’r oedd hi’n gweithio.

Roedd Greg Reardon wedi ffonio’r heddlu er mwyn dweud bod Jo Yeates ar goll ar ôl dychwelyd adref o ymweliad â’i deulu yn Sheffield.

Daethpwyd o hyd i gorff Joanna Yeates dan eira ar ymyl heol Longwood Lane, Failand, yng ngogledd Gwlad yr Haf ar ddiwrnod Nadolig.

Cafodd ei landlord Chris Jefferies, 66, ei arestio ar 30 Rhagfyr, a’i holi am dri diwrnod ar amheuaeth o’i lladd cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.