Mae cyn-athrawes ysbïwr MI6 o Ynys Môn wedi dweud fod honiadau ynglŷn â’i fywyd personol yn ymgais i dynnu sylw o’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd.

Dywedodd Cheryl Eastap wrth bapur newydd The Mail on Sunday bod awgrymiadau fod Gareth Williams yn hoyw neu’n gwisgo dillad merched wedi “brifo ei deulu”.

Awgrymodd bod y wybodaeth wedi ei ryddhau i’r wasg er mwyn gwneud i bobol feddwl mai damwain oedd ei farwolaeth.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Gareth Williams, 31, yn noeth ac wedi ei gloi mewn cês yn ei fflat yn Llundain ym mis Awst.

Roedd Cheryl Eastap wedi dysgu Gareth Williams ar gwrs cynllunio dillad yng Ngholeg Canolog St Martin yn Llundain.

Daethpwyd o hyd i werth £15,000 o ddillad yn fflat Gareth Williams yng nghanol Llundain.

“Ni ddylai’r heddlu fod wedi rhyddhau’r holl wybodaeth amdano,” meddai. “Roedd yn brifo ei deulu ac yn gamarweiniol.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn hoyw neu yn gwisgo dillad merched. Mae nifer o fyfyrwyr ffasiwn yn casglu dillad.”

Does neb wedi ei arestio ers marwolaeth Gareth Williams pum mis yn ôl.