Mae bron i draean o bleidleiswyr cofrestredig Zimbabwe wedi marw, yn ôl ymchwilwyr.

Roedd rhai o’r bobol ar y gofrestr yn 120 oed –  44 mlynedd yw disgwyliad oes y wlad.

Dywedodd Rhwydwaith Cefnogaeth Etholiadol Zimbabwe bod angen ailwampio’r rhestr sy’n cynnwys 5.5 miliwn o enwau cyn yr etholiadau eleni.

Roedd adroddiad gan y grŵp hefyd yn dangos bod tua 40% o’r etholwyr wedi symud heb ddiweddaru eu gwybodaeth pleidleisio.

Dywedodd y grŵp y byddai problemau o’r fath yn arwain at “bleidleisio dwbl a thwyllo”.

Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo’r Arlywydd Robert Mugabe, 86, o anwybyddu hawliau dynol a thwyllo mewn etholiadau.

Mae Robert Mugabe wedi rheoli’r wlad ers 1980.