Profodd heddweision Cymru dros 40,000 o yrrwyr dros y Nadolig i weld a oedden nhw wedi bod yn yfed – ond dim ond 570 oedd dros y trothwy alcohol.

Yng Ngogledd Cymru cafodd 9,068 o bobol eu hatal a’u profi, a 90 eu dal. Yn Nyfed-Powys cafodd 11,269 o 139 eu dal.

Yng Ngwent cafodd 12,022 eu profi a 95 eu dal. Profodd Heddlu’r De 7,905 o yrwyr ac fe gafodd 254 eu dal.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Y Dirprwy Brif Weinidog, fod “newid graddol ond cyson wedi bod mewn agweddau at yfed a gyrru yn y blynyddoedd diweddaraf”.

Roedd y canlyniadau hyn, yn ogystal â lleihad sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau, yn profi hynny, meddai.

“Fodd bynnag, mae angen i’r gwaith da barhau,” meddai.

“Mae’n hanfodol fod gyrwyr yn cofio gadael eu car adref neu ofyn i rywun arall yrru os ydyn nhw’n bwriadu yfed.”