Mae chwaraewr rheng ôl y Dreigiau, Robin Sowden-Taylor, wedi ymddeol o’r gêm er mwyn canolbwyntio ar yrfa newydd o y cae. 

Ymunodd y blaenasgellwr 28 oed â’r Dreigiau oddi wrth y Gleision yr haf diwethaf. Fe enillodd Sowden-Taylor wyth cap dros Gymru. 

“Yn dilyn cyfnod hir o bendroni, rydw i wedi penderfynu mai dyma’r amser i ymddeol,” meddai Robin Sowden-Taylor. 

“Rydw i wedi bod yn chwarae’n broffesiynol ers deg mlynedd. Rwy’n falch iawn o hynny, ac rydw i wedi cyflawni fy uchelgais o chwarae dros Gymru.

“Mae rygbi wedi rhoi lot o bleser i fi, yn enwedig wrth chwarae dros Gymru yn erbyn De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm.

“Roedd cael bod yn gapten ar y Gleision yn ystod eu gêm olaf ym Mharc yr Arfau hefyd yn uchafbwynt.

“Rwy’n ddiolchgar i’r Dreigiau am roi’r cyfle i mi ddilyn trywydd newydd.”