Mae dyn o ardal Dinbych wedi’i arestio gan yr Heddlu ac yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Llanelwy mewn cysylltiad â lladrad arfog yn Llangollen.

Dywedodd yr heddlu bod y lladrad wedi digwydd yn siop Co-op y dref yn Regent Street, Llangollen, toc wedi 7.45pm, 20 Ionawr.

Fe aeth y troseddwyr o’r safle’n waglaw ac mae’r Heddlu wedi dod o hyd i gyllell.

“Mae nifer o dai yn ardal Dinbych wedi’u chwilio er mwyn dod o hyd i ddau droseddwr mewn cysylltiad â’r achos ac mae’r ymchwiliad yn parhau,” meddai llefarydd ar ran yr Heddlu.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.