Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Leon Britton, wedi cyfaddef iddo wneud camgymeriad wrth adael yr Elyrch er mwyn ymuno â Sheffield Utd yr haf diwethaf. 

Mae Britton wedi ail-ymuno ag Abertawe ar gytundeb dwy flynedd a hanner wedi ychydig dros chwe mis yn chwarae dros glwb Bramwall Lane.

Roedd y chwaraewr canol cae wedi gadael yr Elyrch am ddim ar ôl wyth mlynedd gyda’r clwb ar ôl i’w gytundeb ddod i ben. 

Roedd Britton wedi bod trwy gyfnod digon anodd gyda Sheffield Utd, ac wedi bod dan oruchwyliaeth tri rheolwr gwahanol ers ymuno. 

“Roedd gadael yr Elyrch yn gamgymeriad,” meddai Leon Britton. 

“Roedden i’n teimlo ar y pryd bod angen her newydd arna’i. Ond doeddwn i ddim wedi mwynhau’r tymor diwethaf – ar y cae nac oddi ar y cae.

“Mae Sheffield Utd wedi bod yn wych, ac rwy’n teimlo eu bod nhw’n deall pam fy mod i eisiau dod yn ôl Abertawe.

“Rwy’n ddiolchgar i’r rheolwr a’r cadeirydd am roi ail gyfle i mi gyda’r clwb.”