Er bod y rheoleiddiwr darlledu Ofcom wedi gwrthod yr hawl i berchnogion Radio Ceredigion gynnwys llai o Gymraeg ar yr orsaf, mae cefnogwyr yr orsaf yn parhau i boeni.

Tra’n croesawu penderfyniad Ofcom, mae Cyfeillion Radio Ceredigion yn parhau’n bryderus am y sefyllfa ac yn dweud nad ydy’r perchnogion presennol wedi bod yn cadw at amodau’r drwydded.

“Rydw i’n mawr obeithio y bydd Ofcom yn mynd ati i sicrhau fod Radio Ceredigion yn cadw o fewn termau’r drwydded – ar y funud dyw e ddim yn digwydd,” meddai Cadeirydd y Cyfeillion, Geraint Davies.

“Yn anffodus, ers i’r orsaf newid dwylo yn Ebrill 2010 mae Town and Country wedi torri amodau’r drwydded.”

Yn ôl y drwydded bresennol mae angen i’r arlwy fod yn hanner-a-hanner Cymraeg a Saesneg.

Roedd y perchnogion – Townd and Country Broadcasting – wedi cyflwyno cais i newid y drwydded er mwyn cynnwys awr o raglen Gymraeg y dydd a chwarae llai o gerddoriaeth Gymraeg.

Ond ddydd Llun fe benderfynodd Pwyllgor Trwyddedu Ofcom wrthod y cais mewn cyfarfod yn Llundain.

Cwmni Town and Country Broadcasting wnaeth ddatgelu eu bod wedi methu newid y drwydded – roedd Ofcom ei hun wedi addo cyhoeddi’r ymateb ddydd Mawrth nesa’.

“Fe wnaethon ni’r cais fel ein bod yn gallu treulio llai o amser ar reoleiddio a mwy o amser yn gwneud radio lleol poblogaidd,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Townd and Country, Martin Mumford.

“Nawr rydan ni’n tynnu llinell dan y materion rheoleiddio sy’n tynnu’r sylw, ac yn canolbwyntio ar gadarnhau mai Radio Ceredigion yw gorsaf radio lleol fwya’ poblogaidd y sir.”

Daeth y newyddion mewn datganiad ir Wasg gan y cwmni yn rhoi gwybod eu bod wedi prynu’r 20% olaf o gyfranddaliadau Radio Ceredigion gan Tindle Newspapers, a’u bod nawr yn berchen ar 100% o’r cwmni.