Mae aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud ei fod yn pryderu y bydd yna genhedlaeth o bobol ifanc ddim yn cael cyfle i fod yn swyddogion heddlu.

Dywedodd  Peter Pemberton ei fod yn “gyfnod anodd” i’r heddlu ar draws Gymru wrth iddyn nhw ddod i delerau â thoriadau ariannol Llywodraeth San Steffan.

Daw ei sylwadau wedi i Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant ddweud yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe y bydd heddluoedd Cymru yn gorfod torri 1,600 o swyddogion a gweithwyr sifil.

“Fy mhryder pennaf i yw na fydd yr heddlu yn gallu cyflogi swyddogion ifanc,” meddai Peter Pemberton.

“Mewn ychydig flynyddoedd fe fydd yna fwlch oedran yn bodoli. Er, rydw i’n gobeithio y bydd hi’n bosib cyflogi llond llaw o ymgeiswyr – y rhai gorau.”

Dywedodd ei fod yn teimlo bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae yna lawer iawn mwy o hyder yn perthyn i’r heddlu nawr,” meddai.

Ychwanegodd na fyddai “dim yn cael ei wneud a fydd yn peryglu diogelwch pobol yng ngogledd Cymru” o ganlyniad i’r toriadau.

Ymateb Heddlu De Cymru

Cyfeiriodd Chris Bryant yn benodol at Heddlu De Cymru wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, gan ddweud y bydd 688 o swyddogion a gweithwyr eraill yn gorfod mynd.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw, fel pob gwasanaeth cyhoeddus arall, yn wynebu “her ariannol sylweddol dros y pedair blynedd nesaf”.

“Mae yna fwlch cyllidol £47m dros y pedair blynedd nesaf,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Rydyn ni’n amcangyfrif y bydd angen torri swyddi tua 114 o swyddogion a 167 o weithwyr eraill yn y flwyddyn ariannol nesaf yn unig.

“Bydd hynny’n cynyddu i 256 o swyddogion a 432 o weithwyr eraill erbyn 2014/15.”

“Fe fydd lleihau’r staff yn amlwg yn cael effaith ar sut ydyn ni’n gweithredu ond fe fyddwn ni’n gwneud ein gorau  i sicrhau na fydd yn effeithio ar ein gwasanaeth.”