Mae dros 100 o bobol wedi eu harestio heddiw ar amheuaeth o fod yn aelodau o’r Mafia.

Dywedodd yr FBI bod y rhan fwyaf o’r bobol wedi eu harestio bore ma.

Cafodd y mwyafrif eu harestio yn Brooklyn, ond cafodd aelodau honedig eraill o’r Mafia eu harestio ledled Efrog Newydd, New Jersey a New England.   

Mae’r cyhuddiadau yn eu herbyn yn cynnwys llofruddiaeth a smyglo cyffuriau.

Mae’r arestiadau yn ergyd arall i deuluoedd troseddol mawr Efrog Newydd.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r heddlu yno wedi llwyddo i dorri i lawr yn sylweddol ar droseddau wedi eu cynllunio gan y Mafia ac mae nifer o arweinwyr y teuluoedd yn y carchar.