Mae’r Gleision wedi enwi’r un tîm a hwnnw gurodd Castres y penwythnos diwethaf i herio Caeredin yn y Cwpan Heineken ddydd Sadwrn. 

Mae’r Gleision yn teithio i brifddinas yr Alban yn ymwybodol bod rhaid iddynt ennill i fod gydag unrhyw obaith o gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Her Amlin. 

“Mae’n rhaid i ni ennill yn ogystal â bod dau neu dri o ganlyniadau eraill yn mynd o’n plaid ni,” meddai cyfarwyddwr rygbi’r Gleision, Dai Young. 

“Fe fyddai’n wych pe baen ni’n gallu sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws, ond nid wyf yn credu bydd y chwaraewyr yn canolbwyntio ar hynny”

“Mae’n siomedig i beidio cyrraedd rownd wyth olaf y Cwpan Heineken. Ond os gallwn ni perfformio’n dda a sicrhau canlyniad ddydd Sadwrn, ni fydd yr ymgyrch wedi bod yn drychinebus.”

Carfan y Gleision

15 Chris Czekaj 14 Leigh Halfpenny 13 Casey Laulala 12 Jamie Roberts 11 Richard Mustoe 10 Dan Parks 9 Tom Slater.

1 John Yapp 2 T Rhys Thomas 3 Tafa’ao Filise 4 Deiniol Jones 5 Paul Tito 6 Andries Pretorius 7 Martyn Williams 8 Maama Molitika.

Eilyddion: 16 Gareth Williams 17 Scott Andrews 18 Sam Hobbs 19 Bradley Davies 20 Ben White 21 Ceri Sweeney 22 Dafydd Hewitt 23 Tom James