Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C
Mae Cadeirydd newydd S4C, Huw Jones, yn cydnabod nad oes “ateb hawdd” i gynyddu gwylwyr S4C. Ond mae’n dweud na ellir mesur llwyddiant trwy edrych ar y ffigyrau gwylio yn unig.

“Mae nifer y gwylwyr yn un mesur o berfformiad y Sianel. Mae gwerthfawrogiad gwylwyr o’r rhaglenni yn fesur arall pwysig dros ben ac mae eisiau cyd-bwysedd y ddau. Yr ateb ydi ansawdd y rhaglenni a gwerthfawrogiad y gwylwyr ohonyn nhw.”

Mae Undeb Bectu yn gosod y bai ar Huw Jones pan oedd yn Brif Weithredwr am y polisi o roi gwaith i gwmnïau mawr gynhyrchu mwy o oriau teledu yn yr oes ddigidol – cam sydd wedi arwain at safonau’n gostwng, medden nhw.

Ond mae’n pwysleisio bod 40 o gwmnïau yn cyflenwi rhaglenni i S4C ac yn teimlo bod cyfle i gwmnïau mawr a rhai bach. “Os ydi’r dychymyg a’r ffreshni yn eu syniadau nhw mi ddyle nhw wybod fod y drws yn agored iddyn nhw yn S4C”.

Mae’n gwadu bod S4C wedi gwneud y penderfyniad anghywir wrth gynyddu nifer yr oriau i ddelio â’r oes ddigidol, er bod yr undebau yn dadlau fod hyn wedi arwain at ostwng safon rhaglenni.

“Y ffaith bod y gofod digidiol yna wedi cael ei fachu ar y pryd os liciwch chi, sy’n golygu ein  bod ni rwan yn medru darparu Cyw am oriau sylweddol bob dydd, bod yna raglenni ar gael yn y prynhawn, bod yna raglenni ar gael yn hwyrach yn y nos.”

Darllenwch weddill y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 7 Gorffenna