Gwobr Llyfr y Flwyddyn
Y flwyddyn nesaf, mi fydd yna “gystadleuaeth ffyrnig” ymysg nofelwyr ar gyfer lle ar restr fer Llyfr y Flwyddyn.

Dyna y mae Gerwyn Wiliams, un o feirniaid y gystadleuaeth eleni, yn ei ragweld, yr wythnos y bydd enw prif enillydd 2010 yn cael ei gyhoeddi.

Bydd enw’r enillydd – Dewi Prysor, Angharad Price neu Ned Thomas – yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn Cineworld Caerdydd heno.

Ond y flwyddyn nesaf, bydd y llyfrau yn cael eu rhannu yn gategoriau – barddoniaeth, ffuglen a ffeithiol.

“Mae llawer o ysgoloriaethau wedi mynd i noddi ffuglen,” meddai, “ac mae cyflwr ffuglen Gymraeg gyfoes yn arbennig o gryf ac mewn sefyllfa iachus o safbwynt ffuglen Gymraeg.

“Mae yna werthiant iddo fo. Mae yna lai – o reidrwydd – o deitlau barddoniaeth yn ymddangos, ond llawn cyn bwysiced â’r nifer yw ansawdd beth sy’n cyrraedd.

“Ond mae yna ddigon o amrywiaeth o leisiau dw i’n credu.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 7 Gorffennaf