Gyda Rhuthun yn bedwerydd yn y tabl a Llangefni ar y gwaelod, ar bapur, fe ddylid bod wedi gallu darogan y canlyniad ymlaen llaw. 

Ond ar gae soeglyd mewn glaw trwm, roedd y canlyniad yn wahanol iawn i’r disgwyl. 

Hanner cyntaf clos

Roedd y Gleision o Ruthun yn chwarae yn erbyn y gwynt a’r glaw ac fe dreuliwyd y pum munud cyntaf yn hanner y tîm cartref.  Ond, Llangefni gafodd y cyfle cyntaf i fynd ar y blaen, ond methwyd y gic gosb. 

Anfonwyd un o chwaraewyr Llangefni i’r gell cosb ac fe barhaodd y Gleision i roi pwysau ar eu hamddiffyn gyda sgrym ar ôl sgrym ychydig o lathenni o’r llinell gais. Ond, roedd amddiffyn di-ildio ac anawsterau trafod, gyda’r bêl mor llithrig â sebon, yn gwrthod caniatáu sgôr i Ruthun. 

Roedd blaenwyr y tîm cartref yn chwarae’n dda o dan yr amodau ac yn gallu trin y bêl wlyb yn well na’r ymwelwyr. 

Ychydig cyn hanner amser roedd Rhuthun yn pwyso ar linell gais yr ymwelwyr ond roedd amddiffyn Llangefni yn ddigon cryf i’w hatal gyda’r gêm yn ddi-sgôr ar yr egwyl. 

Ail hanner 

Ar ôl yr hanner, fe ganolbwyntiodd Llangefni ar gryfder eu sgrym gan dreiddio amddiffyn y Gleision. Fe dalodd hyn ar ei ganfed o fewn ychydig funudau pan aeth y mewnwr, Robert Evans drosodd am gais gyda Carwyn Milburn yn trosi.   

Daeth yr ymwelwyr o dan gryn bwysau gan Langefni wrth iddynt geisio gwthio drosodd am gais arall, ond fe lwyddodd gwaith amddiffyn da iawn i atal hyn. 

Yn chwarter olaf y gêm, fe geisiodd y Gleision leihau’r bwlch ond hyd yn oed pan aeth Llangefni i lawr i 14 dyn am yr ail waith roedd eu gallu i ddygymod yn well â’r amodau yn fantais ac fe sicrhawyd buddugoliaeth haeddiannol gyntaf o’r tymor i Langefni. 

 

Adroddiad gan Lois Jones

http://www.rygbirhuthun.com/