Adam Jones
Fe fydd prop y Gweilch, Adam Jones, yn methu pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Cyhoeddodd y Gweilch heddiw y bydd y prop, sydd ymysg y gorau yn y byd, allan am hyd at wyth wythnos yn dilyn anaf i’w benelin. 

Fe ddioddefodd Jones yr anaf wrth chwarae i’r Gweilch yn erbyn Gwyddelod Llundain ddydd Sul.

“R’yn ni wedi cadarnhau fod yna niwed sylweddol i ligament ei benelin chwith ac mae disgwyl i Adam fod allan am tua wyth wythnos,” meddai ffisiotherapydd y Gweilch, Chris Towers. 

Fe fydd y prop Gethin Jenkins hefyd yn methu’r bencampwriaeth gyfan oherwydd anaf. 

Mae Cymru eisoes wedi colli Andrew Bishop, Tom Shanklin, Gavin Henson a George North yn dilyn anafiadau, ac mae Richie Rees wedi cael ei wahardd. 

Mae’r newyddion yn ergyd arall i gynlluniau hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wrth iddo baratoi i gyhoeddi ei garfan ddydd Sul.