Carl Sargeant
Fe fydd y Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant, yn agor ffordd osgoi £6.1 miliwn newydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr heddiw.

Mae’r ffordd osgoi newydd wedi ei hadeiladu ar yr A483 ger Llandysilio, ar y ffordd rhwng y Trallwng a Chroesoswallt yn Sir Amwythig.

Y gobaith yw y bydd y ffordd newydd – adeiladwyd gan gwmni Alun Griffiths ar ran Llywodraeth Cymru – yn lleddfu’r tagfeydd traffig yno.

Cyn adeiladu’r ffordd osgoi roedd yr A483 yn mynd trwy ganol pentref Four Crosses, gan greu oedi i yrwyr a thrafferthion i drigolion y pentref.

“Fe fydd y ffordd osgoi newydd yma yn Four Crosses yn gwneud y pentref yn saffach am na fydd rhaid i filoedd o geir a lorïau deithio drwy ganol y gymuned wrth ddilyn yr A483,” meddai Carl Sargeant.

“Mae’r A483 yn ffordd sy’n allweddol wrth gysylltu cymunedau sydd bob ochor i Glawdd Offa.

“Mae’n un o brif wythiennau twristiaeth a diwydiannau eraill canolbarth Cymru. Fe fydd y ffordd osgoi yma yn gwella’r cysylltiad hwnnw.”

Mae’r hewl newydd 1,400 metr o hyd yn cynnwys tanffordd sy’n caniatáu i bobol y pentref groesi’r hewl brysur heb orfod cerdded ar ei draws.

“Mae’n braf fod traffig trwm wedi ei ddargyfeirio o ganol ein pentref,” meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins.