Cyflwynwyd Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro i Gadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl yn nhref Wrecsam heddiw.

Rhoddir y Goron a’r wobr ariannol eleni gan Seiri Rhyddion Gogledd Cymru. Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan John Price o Fachynlleth.

Mae Coron yr Eisteddfod eleni’n cyfuno ardal Wrecsam a’r Fro a dathliadau canmlwyddiant a hanner y Brifwyl.

Dyma’r bedwaredd Goron i’w chreu ganddo, gan ei fod eisoes wedi creu Coronau 1997, 2001 a 2003.

Mae band y Goron yn cynrychioli un o safleoedd treftadaeth y byd, pont ddŵr Froncysyllte, ac mae’r band hwn yn rhan ganolog o’r Goron, a’i bwau’n ffordd o arddangos nifer o ddelweddau eraill.

Mae’r  cynllunydd yn cymharu’r bont gyda’r Eisteddfod, gan ddatgan bod y Brifwyl yn gyfle i greu pontydd rhwng wahanol sefydliadau, rhwng siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r di-Gymraeg, ynghyd â’r rheini sydd wedi symud i’r ardal i fyw.

“Mae’n bleser gan Bwyllgor Gwaith y Brifwyl dderbyn Coron yr Eisteddfod eleni, a diolch i Brif Gyfrinfa Talaith Gogledd Cymru am eu haelioni,” meddai Aled Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2011.

“Mae hon yn Goron ysblennydd, ac mae’n llwyddo i adlewyrchu hanes a threftadaeth cyfoethog Wrecsam a’r dalgylch.

“Mae John wedi creu tair Coron Genedlaethol o’r blaen, a’r dair wedi’u hennill, felly gobeithio bod hyn yn golygu y bydd teilyngdod ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Llun yr Eisteddfod eleni.”

Cefnogaeth y Seiri Rhyddion

“Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol a’r budd a ddaw i’n diwylliant ac i’r ardal leol, a roeddwm yn falch o’r cyfle i gyflwyno’r Goron eleni,” meddai Ieuan Redvers Jones, Prif Feistr Seiri Rhyddion Talaith Gogledd Cymru.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cyflwyniad hwn yn cadarnhau cefnogaeth y Seiri Rhyddion i ddiwylliant a gwerthoedd Cymru.  Mae’n bleser personol i mi i gyflwyno Coron Eisteddfod Wrecsam, gan y magwyd fy nhad yn Adwy’r Clawdd.  Pob llwyddiant i’r Eisteddfod.”

Creu’r goron

Mae’r Nod Cyfrin ar ganol y Goron eleni wedi’i wneud o lo.

“Y peth euraidd i ni fel Cymry yw’r Eisteddfod, a glo oedd ‘aur’ ardal ddiwydiannol Wrecsam, felly roedd yn bwysig bod glo’n cael ei gynnwys rhywle ar y Goron,” meddai John Price.

“Ar y naill ochr i’r Nod Cyfrin, ceir glowr a gweithiwr haearn, ac mae cerfluniau o’r rhain i’w gweld yng nghanol tref Wrecsam.

“Yn ogystal, mae cyfraniad addysg, yr eglwysi, y drychineb yng Ngresffordd, y system gamlas, coeden Ywen Penley, sydd yn bum cant oed medd rhai, a dolen drws, sy’n cynrychioli’r ffaith bod yr Eisteddfod yn agor y drws i bawb sy’n byw yn y dalgylch, yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, ac mae’n agor y drws ar un o wyliau celfyddydol mawr y byd.”

Cynhelir Seremoni’r Coroni ddydd Llun 1 Awst am 16.30.

Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam yw lleoliad yr Eisteddfod eleni, a chynhelir y Brifwyl o 30 Gorffennaf – 6 Awst.