Mae BBC Cymru wedi gwadu eu bod nhw’n gwastraffu adnoddau ar ôl i e-bost fynd i ddwylo’r wasg oedd yn awgrymu bod newyddiadurwyr yn segur dros dymor yr haf.

Mae’r e-bost aeth i ddwylo papur newydd y Western Mail yn awgrymu fod toriadau o fewn y gorfforaeth yn arwain at ragor o wastraff yn y pen draw.

Mae’r e-bost gan un o uwch-reolwyr BBC Cymru yn dweud wrth staff y dylen nhw gymryd amser gwyliau, lanhau eu desgiau, neu wneud ychydig o waith ffeilio os ydyn nhw’n segur yn ystod adeg gymharol dawel yr haf.

Uned Gynhyrchu newydd BBC Cymru sy’n cael y bai – mae’n gyfrifol am ddyrannu adnoddau a staff o fewn y gorfforaeth.

Dywedodd ffynhonnell o fewn y gorfforaeth wrth bapur newydd y Western Mail fod yr Uned Gynhyrchu yn ei gwneud hi’n anoddach i staff symud i weithio ar brosiectau eraill.

Mae’r Uned Gynhyrchu bellach yn bilio cynhyrchwyr am ddefnyddio staff o adrannau eraill fyddai fel arall yn segur, sy’n golygu nad ydyn nhw’r un mor barod i’w defnyddio, meddai.

Gwadu gwastraff

Mae’r BBC wedi wfftio’r honiadau, gan ddweud fod yr Uned Gynhyrchu wedi eu galluogi i lyfnhau rheoli staff, a gwneud arbedion ariannol yn y pum mlynedd ers ei sefydlu.

“Dros y cynllun arbedion pum mlynedd gyfredol, mae’r Uned Gynhyrchu wedi cynorthwyo BBC Cymru i leihau costau 15% trwy sicrhau bod y lefelau staffio yn cyd-fynd ac yn dilyn yr anghenion disgwyliedig,” meddai llefarydd ar ran y gorfforaeth.

“Mae Uned Gynhyrchu BBC Cymru yn adran hynod o effeithiol sydd yn gyfrifol am drefnu dros 400 o staff a gweithwyr ffrilans ar draws ystod eang o brosiectau.

Er bod natur cynhyrchu cynnwys a chomisiynu yn gallu bod yn anwadal ynghyd â natur dymhorol y calendr chwaraeon – ar unrhyw adeg, ar gyfartaledd, mae 90% o’r Uned Gynhyrchu yn gweithio’n llawn amser ar brosiectau golygyddol.

“Pan fo amseroedd tawel prin yn codi rhwng prosiectau golygyddol, caiff ei ddefnyddio i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i staff, ac i unigolion gyflawni cyfrifoldebau nad yw’n bosib eu gwneud yn ystod yr adegau cynhyrchu prysuraf.”