Mae Plaid Cymru wedi dweud heddiw bod y toriadau addysg ddatgelwyd gan y Ceidwadwyr ddiwedd y llynedd yn cyfateb i dorri £40,000 o bob ysgol yng Nghymru.

Adeg datgelu cyllideb ddrafft y Cynulliad ym mis Tachwedd dywedodd y Ceidwadwyr y bydden nhw’n gwarchod cyllideb yr adran iechyd yn gyfan gwbwl.

Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd y Ceidwadwyr gyllideb amgen na fyddai’n golygu gorfod torri iechyd o gwbwl – ond a oedd yn golygu toriadau mawr i adrannau eraill.

Byddai’n rhaid torri 12% o gyllideb yr adran addysg, o’i gymharu â 8% dan gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad.

Yn ôl ffigyrau a ryddhawyd gan Blaid Cymru heddiw byddai toriadau’r Ceidwadwyr yn cyfateb i dros £40,000 yr ysgol erbyn blwyddyn ariannol 2013-14.

Dywedodd llefarydd  Plaid Cymru ar addysg, yr Aelod Cynulliad Nerys Evans, fod cynigion cyllido’r Torïaid yn rhai “llym”. 

“Mae’r Torïaid wedi cymryd agwedd tymor-byr iawn wedi ei anelu, mae arna’i ofn, at gipio tipyn o benawdau rhad,” meddai.

“Diolch byth nad yw’r Torïaid mewn sefyllfa i roi eu cynlluniau ar waith, gan y byddant yn gwneud tro gwael iawn â Chymru a phlant Cymru.

“Byddai realiti eu rhethreg yn arwain at dangyllido difrifol ar ysgolion, a dysgu yn ei ystyr ehangach, gan gondemnio ein plant i addysg eilradd.”