Fe fydd rhan o’r rheilffordd rhwng Gogledd Llanrwst a Blaenau Ffestiniog wedi cau nes yfory oherwydd llifogydd, meddai llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru wrth Golwg360 heddiw.

Fe gafodd y llinell ei chau ddoe oherwydd bod lefelau dŵr ar ôl llifogydd yn “rhy uchel” i gynnal y gwasanaeth.

Mae oedi o tua 40 munud wrth i fws gludo teithwyr heibio’r rhan o’r rheilffordd sydd wedi dioddef y llifogydd.

Dywedodd y llefarydd eu bod nhw’n “gobeithio ail agor y llinell reilffordd yfory”.

“Rydyn ni’n cadw llygaid ar y sefyllfa ac yn annog pobl i edrych ar ein gwefan ni a gwefan National Rail Enquiries cyn teithio,” meddai.

Does dim o reilffyrdd eraill Trenau Arriva Cymru wedi cau ar hyn  o bryd.