Mae yna adroddiadau bod Sunderland yn gobeithio arwyddo ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd. 

Mae Newcastle Utd, Fulham, Birmingham, West Ham ac Everton eisoes wedi dangos diddordeb. 

Ond mae Sunderland yn chwilio am ymosodwr newydd ar ôl i Darren Bent ymuno gydag Aston Villa ddoe.   

Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi arwyddo Jon Parkin a Jay Emmanuel-Thomas ers i’r ffenestr trosglwyddo agor ddechrau’r mis, ac mae yna sïon bod hynny o ganlyniad i’r ansicrwydd ynglŷn â dyfodol Bothroyd.

Mae’r clwb eisoes wedi dweud eu bod nhw wedi gwrthod cynnig gan glwb dienw am yr ymosodwr sydd ag un cap dros Loegr. 

Fe allai’r ymosodwr adael y clwb am ddim ar ddiwedd y tymor, ond fe fyddai ei gadw o fudd i Gaerdydd wrth iddynt geisio ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Dave Jones eisoes wedi dweud bod yr Adar Glas wedi cynnig cytundeb newydd i Bothroyd. 

“Dw i ddim eisiau gwerthu unrhyw chwaraewr allweddol.  R’yn ni wedi cynnig cytundeb newydd i Jay. Dyna’r cyfan sydd i’w ddweud,” meddai Jones wrth bapur South Wales Echo.  

“Fe fydd rhaid iddo benderfynu a fydd yn derbyn neu yn gwrthod. Ond fe fydd ei gytundeb yn parhau tan ddiwedd y tymor.”