Cynyddodd diweithdra yng Nghymru 4,000 i 123,000, neu 8.4%, dros y tri mis cyn diwedd mis Tachwedd.

Doedd pethau ddim gwell ar draws Prydain, lle cynyddodd diweithdra 49,000 i 2.5 miliwn, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn ôl y ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw mae un ym mhob pump o bobol 16 i 24 oed yn ddi-waith, y ffigwr uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1992.

Mae nifer y di-waith wedi cyrraedd 7.9% erbyn hyn, ond ymysg pobol 16 i 24 mae wedi cyrraedd 20.3%.

Di-waith

Cafodd 157,000 o bobol eu gwneud yn ddi-waith yn ystod y chwarter diwethaf, cynnydd o 14,000 ar y tri mis blaenorol.

Mae nifer y bobol sydd yn anweithredol yn economaidd wedi cyrraedd 9.3 miliwn, yn ôl y ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw.

Syrthiodd nifer y bobol sydd mewn gwaith ar draws Prydain 69,000 i 29 miliwn, y cwymp mwyaf ers haf 2009.

Syrthiodd cyflogaeth yn y sector gyhoeddus 33,000 i 6 miliwn rhwng mis Mehefin a mis Medi.

Cynyddodd nifer y rheini sydd wedi bod allan o waith am fwy na blwyddyn 15,000 i 836,000.

Ymateb

“Mae’r ffigyrau yma yn tanlinellu maint yr her sy’n ein hwynebu,” meddai’r gweinidog cyflogaeth, Chris Grayling.

“Fe wnaethon ni etifeddu diffyg ariannol anferth ond rydyn ni’n benderfynol o roi trefn ar bethau drwy gefnogi twf yn y sector breifat.”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb y TUC, Brendan Barber, bod y ffigyrau “anodd” heddiw yn dangos y gallai pethau waethygu eto yn 2011.

“Mae yna berygl go iawn ein bod ni’n mynd i golli cenhedlaeth gyfan i ddiweithdra,” meddai.

“Mae’r Llywodraeth yn cosbi pobol ifanc am lanast nad oedden nhw’n gyfrifol amdano.

“Mae cyflogaeth yn syrthio yn gynt nag ar unrhyw adeg ers y dirwasgiad ac mae nifer o’r rheini sydd yn cael gwaith yn setlo am jobsys dros dro.”