Mae De Swdan wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth o fwyafrif mawr yn y refferendwm yno, yn ôl adroddiadau cynnar gan asiantaeth newyddion Reuters.

Mae swyddogion pleidleisio yn saith o’r 10 talaith wedi cadarnhau fod y pleidleisiau o blaid annibyniaeth yn sylweddol dros ben.

Roedd sylwadau nifer o’r swyddogion yn seiliedig ar ffigyrau cynnar. Ond datgelodd rhai bod y pleidleisio yn gryf o blaid annibyniaeth.

Roedden nhw’n awgrymu bod cymaint â 90% wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth mewn rhai ardaloedd.

Dyw tri o’r taleithiau, sef Equitoria Orllewinol, y Nîl Uchaf a Bahr al-Ghazal, heb ryddhau unrhyw wybodaeth eto.