Mae rheolwr Stoke City, Tony Pulis, wedi dweud ei fod yn disgwyl i Gaerdydd herio am le yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor yma.

Fe gollodd yr Adar Glas 2-0 yn erbyn Stoke yng ngêm ail chwarae trydedd rownd Cwpan yr FA. Roedd y ddau dîm wedi penderfynu gorffwys nifer o’u chwaraewyr gorau. 

Roedd y gêm ddi-fflach yn ddi-sgôr ar ôl 90 munud ac fe fu’n rhaid chwarae hanner awr o amser ychwanegol. 

Fe sgoriodd cyn-chwaraewr Wrecsam, John Walters, ddwy gôl dros Stoke er mwyn sicrhau lle i’r tîm ym mhedwaredd rownd  Cwpan yr FA. 

Does dim amheuaeth gan Pulis bod clwb y brifddinas yn ddigon da i ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

“Nid tîm gorau Caerdydd chwaraeodd yn ein herbyn ni, ond mae ganddynt garfan sydd cystal ag unrhyw glwb arall yn y Bencampwriaeth,” meddai Pulis. 

“Rwy’n disgwyl iddynt gystadlu am ddyrchafiad – does dim amheuaeth am hynny.

“Maen nhw’n mynd i ennill y rhan fwyaf o’u gemau yn y Bencampwriaeth y tymor yma.”

Methodd Caerdydd a chreu cyfle amlwg i sgorio yn ystod y gêm ond roedd alwadau am gic o’r smotyn yn dilyn taclau ar Jon Parkin yn yr hanner cyntaf a Michael Chopra yn eiliadau olaf y 90 munud cyntaf.

Er gwaethaf y canlyniad, dywedodd Dave Jones ei fod yn weddol hapus ag ymdrech ei dîm ifanc. 

“Roedd sawl chwaraewr ifanc yn y tîm ac maen nhw wedi cael y profiad o chwarae yng Nghwpan yr FA.

“Roedd pawb wedi gwneud eu gorau ac r’yn ni’n siomedig ein bod ni mas o’r gystadleuaeth.”