Mae rheolwr y Seintiau Newydd, Mike Davies, wedi dweud ei fod yn disgwyl gêm gystadleuol yn erbyn Bangor yn Park Hall heno.

Mae’r Seintiau Newydd 10 pwynt ar ei hol hi i dîm Nev Powell yn Uwch Gynghrair Cymru – ond mae gan y Seintiau Newydd dwy gêm ychwanegol i’w chwarae.

“Mae’n rhaid canmol Bangor am yr hyn y maen nhw eisoes wedi ei gyflawni. Fe fydd dal i fyny â nhw yn dipyn o her,” meddai Mike Davies. 

Ond dywedodd rheolwr y Seintiau Newydd ei bod hi’n rhy gynnar yn y tymor i fod yn edrych ar y tabl.

“Rwy’n credu y bydd Bangor yn gweld eisiau Jamie Reed nawr ei fod wedi ymuno gydag Efrog,” meddai.

“Mae yna ffordd bell i fynd ac mae’n rhaid i ni gadw llygad ar Gastell-nedd yn ogystal â Bangor.”

Bangor

Mae rheolwr Bangor, Nev Powell, yn ffyddiog bydd ei dîm yn gallu dod i ben a hanner cyntaf eu tymor gyda chanlyniad positif. 

Fe fydd Bangor yn parhau ar frig y tabl beth bynnag fydd y canlyniad heno, ond fe fyddai colli’r gêm yn lleihau eu mantais ar y brig i saith pwynt. 

Fe fyddai dwy fuddugoliaeth bellach i’r Seintiau Newydd yn eu gemau ychwanegol cyn i’r adran gael eu rhannu’n ddwy yn golygu mai dim ond pwynt sydd rhwng y ddau glwb ar ddechrau’r cyfnod newydd.

Mae Nev Powell yn cydnabod mae’r Seintiau Newydd yw’r ffefrynnau ar gyfer y gêm, gan eu bod nhw’n dîm llawn amser gyda’r fantais o chwarae’n gyson ar eu maes plastig. 

“Ond rwy’n ffyddiog y byddwn ni’n sicrhau’r fuddugoliaeth ac fe fydd hynny’n hwb mawr i ni.”

Gemau eraill

Fe fydd Castell-nedd, sy’n drydydd yn yr adran, yn wynebu Llanelli, sy’n bedwerydd, ar y Gnoll heno. 

Fe fydd Caerfyrddin yn anelu am orffen ymysg y chwech uchaf yn y tabl pan fyddwn nhw’n wynebu Prestatyn yng Ngerddi Bastion.