Y Pafiliwn Pinc
Fe fydd gan y Pafiliwn pinc yr Eisteddfod Genedlaethol fil yn llai o seddi eleni o’i gymharu â llynedd, cadarnhawyd heddiw.

 “Eithriad” yw’r penderfyniad, meddai’r llefarydd ar ran yr wŷl wrth Golwg360, cyn dweud bod y Pafiliwn pinc yn dal 3,500 fel arfer.

Bydd torri nifer y seddi i 2,500 yn arbed arian i’r Eisteddfod ac yn sicrhau fod yna olygfa gwell o’r seddi sydd ar ôl, meddai’r llefarydd.

“Roedd hi’n anoddach gweld y llwyfan o rai o’r seddi,” meddai.

“Mae yna ddwy ffordd o edrych ar bethau – fe fydd yna ostyngiad mewn incwm ond fe fydd canran uwch o’r seddi’n rhai da.”

Mae pob sedd yn costio “tua £14” i’r Eisteddfod, felly fe fydd yr Eisteddfod yn arbed tua £14,000 o bunnoedd drwy dorri mil o seddi, meddai.

“Os oes 2,500 o bobl yn y Pafiliwn, rydym ni wedi gwneud yn dda. Mae hynny dal yn eithaf swmpus.”

Sgîl effaith llai o seddi yw y bydd hyd yn oed mwy o alw am docynnau i’r cyngherddau eleni. Mae’r Eisteddfod yn annog pobl i brynu tocynnau, a fydd ar gael o 1 Mawrth, ymhellach o flaen llaw.

Sain – nid seddi – yw’r broblem

Dywedodd Heather Lynne Jones, eisteddfodwr brwd o ardal Llanberis nad oedd wedi clywed unrhyw gwynion am seddi’r Pafiliwn, “dim ond am safon y sain”.

“Mae hyd yn oed pobol sy’n cystadlu ar y llwyfan yn cwyno am y sain – bod yna ormod o feedback,” meddai.

“Mae’r pileri sy’n dal y babell yn gallu cyfyngu’r olygfa i rai ond mae gostyngiadau ym mhrisiau’r seddi hynny,” meddai Heather Lynne Jones.

Awgrymodd bod yr Eisteddfod yn torri nôl ar seddi am nad oedden nhw’n llenwi.