Mae tri aelod o deulu fu farw mewn damwain car ar yr M4 yn hwyr neithiwr wedi eu henwi.

Fe fu farw Stephen Padden, 56 oed, ei fab Thomas Padden, 20, a’i bartner ef, Louise Evans, 23, neithiwr ar ôl i’r Peugeot 406 yr oedden nhw ynddo adael y ffordd.

Aethpwyd a dynes 51 oed a babi chwe mis oed i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ag  anafiadau llai difrifol.

Roedd y teulu cyfan o ardal Porthcawl.

Digwyddodd y ddamwain rhwng cyffyrdd 32 a 33 ar ffordd orllewinol yr M4 tua 11.30pm neithiwr.

“Rydym ni’n awyddus i siarad ag unrhyw un welodd y ddamwain neu a yrrodd heibio yn fuan wedyn,” meddai’r Rhingyll Louise French o’r Uned Heddlu Ffyrdd.

“Fe fydden ni’n croesawu gwybodaeth gan unrhyw un welodd y cerbyd yn cael ei yrru cyn y ddamwain.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 02920 633 438 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.