Llys y Goron Abertawe
Bydd wyth cyn heddwas sydd wedi ymddeol yn wynebu achos llys heddiw wedi eu cyhuddo o gamwedd arweiniodd at garcharu tri dyn.

Mae pob un o’r wyth wedi eu cyhuddo ar y cyd yn yr achos llys mwyaf o’i fath sy’n ymwneud â chyn heddweision yn hanes Ynysoedd Prydain.

Maen nhw wedi eu cyhuddo o gydgynllwynio er mwyn gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn dilyn llofruddiaeth putain yn ne Cymru.

Mae dau cyn aelod o staff yr heddlu hefyd wedi eu cyhuddo o gefnogi’r cynllwyn drwy ddweud celwydd wrth gael eu holi mewn llys.

Y ‘Cardiff Three’

Cafodd y butain Lynette White, 20 oed, ei thrywanu mwy na 50 o weithiau yn ei fflat yn ardal y dociau yng Nghaerdydd yn 1988.

Cafwyd Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris, y ‘Cardiff Three’, yn euog o’i llofruddio yn 1990.

Wynebodd y cefndryd Ronnie a John Actie achos llys ond cafodd y ddau eu rhyddhau, ar ddiwedd ail achos llys oedd yn cynnwys y pum dyn.

Ond yn 1992 cafodd dedfrydau Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris eu diddymu gan y Llys Apêl.

Yn 2003 pleidiodd Jeffrey Gafoor yn euog i lofruddio Lynette White ac mae wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar.

Fe fuodd Yusef Abdullahi, 49 oed, farw yn gynharach eleni.

‘Gwyrdroi cwrs cyfiawnder’

Fe fydd tri cyn swyddog blaenllaw sydd bellach wedi ymddeol yn chwarae rhan bwysig yn yr achos yn Llys y Goron Abertawe – y cyn brif uwch-arolygydd Thomas Page, a’r prif arolygywr  Graham Mouncher a Richard Powell.

Bydd pump cyn heddwas arall sydd bellach wedi ymddeol – Michael Daniels, Paul Jennings, Paul Stephen, Peter Greenwood, a John Seaford – hefyd yn wynebu achos llys.

Mae’r wyth wedi eu cyhuddo ar y cyd o gynllwynio er mwyn gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Violet Perriam ac Ian Massey, yn ogystal â Graham Mouncher, wedi eu cyhuddo o anudoniaeth.

Mae pedwar cyn heddwas arall wedi eu cyhuddo o gynllwynio a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac mi fyddwn nhw’n wynebu achos llys ar wahân y flwyddyn nesaf.

Bydd y rheithgor yn cael eu dewis o 400 ymgeisydd heddiw, sydd wedi cael gwybod y gallai’r achos llys barhau am saith mis.

Bydd y barnwr Justice Sweeney yn llywyddu dros yr achos llys yma a’r achos llys y flwyddyn nesaf.