Llyndy Isaf (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi codi £750,000 mewn 100 diwrnod er mwyn achub fferm hanesyddol yn Eryri.

Mae’r mudiad yn gofyn am £1 miliwn i brynu fferm Llyndy Isaf ger Nant Gwynant, sy’n cynnwys tir wrth droed yr Wyddfa, Llyn Dinas a Dinas Emrys, olion y gaer  lle’r oedd y ddraig goch a’r ddraig wen wedi ymladd, yn ôl y stori werin.

Dyma ymgyrch fwyaf yr ymddiriedolaeth ers iddyn nhw godi arian er mwyn achub yr Wyddfa ychydig dros ddegawd yn ôl.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth, dyw’r fferm ddim wedi’i ffermio’n ddwys ers cenedlaethau ac, o ganlyniad, mae’n gartref i amrywiaeth mawr o fywyd gwyllt, gan gynnwys adar prin fel y frân goesgoch a’r hebog tramor.

Os bydd yn cael ei gwerthu ar y farchnad agored, medden nhw, mae yna beryg y bydd y 614 erw’n mynd i ddwylo cwmni masnachol a hynny’n bygwth ei chymeriad.

Mae ymgyrch yr ymddiriedolaeth i brynu Llyndy Isaf wedi ennill cefnogaeth yr actores Catherine Zeta Jones, a’r actor Matthew Rhys.

Diolchodd Matthew Rhys heddiw i’r rheini sydd wedi rhoi arian er mwyn achub y fferm, ond rhybuddiodd nad oedd y targed wedi’i gyrraedd a bod amser yn brin.

‘Angen eich cymorth’

“Mae’r ffermwr wedi rhoi hyd at ddiwedd y flwyddyn, ac os nad ydyn ni wedi codi £1m erbyn hynny fe fydd y fferm yn cael ei werthu ar y farchnad agored,” meddai.

“Felly os ydych chi, fel fi, yn caru Eryri ac eisiau gwarchod un cornel arbennig rhowch arian i’r apêl. Mae angen eich cymorth arnom ni.”

Dywedodd Richard Neale, rheolwr cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri, ei fod “wrth ei fodd” ag ymateb y cyhoedd.

“Bydd bob punt yn mynd tuag at ddiogelu’r tirlun prydferth yma, gan ei warchod am byth a’i agor i bawb ei ddefnyddio,” meddai.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn addo y bydd cerddwyr a champwyr yn cael defnyddio’r fferm a’r tir o amgylch y llyn.

Dylai unrhyw un sydd eisiau rhoi arian ffonio 0844 800 1895 neu fynd i wefan www.nationaltrust.org.uk/snowdoniaappeal.