Mae bron i hanner cant o bobl wedi eu lladd a 75 wedi eu hanafu yn Irac ar ôl i hunan-fomiwr ymosod ar orsaf heddlu yng nghanol tyrfa o bobl oedd yn aros i geisio am swyddi yno.

Mae’r heddlu’n dweud bod yr hunan-fomiwr wedi ymuno â thyrfa o ryw gant o bobl y tu allan i’r orsaf ar gyrion dinas Tikrit, 80 milltir i’r gogledd o Baghdad.

Dwy awr wedi’r bomio roedd nifer y meirw yn cynyddu o hyd, wrth i uchelseinyddion o fosgiau’r ddinas alw ar bobl i roi gwaed ar gyfer y rhai gafodd eu hanafu.

Y criw yma oedd y cyntaf i ymgeisio am y 2,000 o swyddi heddlu newydd sydd wedi eu creu yn nhalaith Sakahuddin, ble mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn Fwslemiaid Sunni, gan Swyddfa Fewnol Irac.

Mae’r ymosodiad yn tanlinellu gwendidau diogelwch yn Irac, wrth i fyddin America baratoi i adael y wlad ddiwedd y flwyddyn.