Cyhoeddwyd heddiw y bydd swyddfa’r Asiantaeth Safonau Gyrru yng Nghaerdydd, sy’n cyflogi 87 o bobol, yn cau.

Fe fydd Tŷ Caradog, canolfan weinyddol yr asiantaeth sy’n gyfrifol am brofion gyrru, yn cau ar 31 Mawrth.

Fe fydd y llywodraeth yn cadw swyddfa lai fydd yn cyflogi tua wyth i 12 o staff yng Nghaerdydd.

Dywedodd prif weithredwr yr asiantaeth eu bod nhw’n ymgynghori â gweithwyr ac undebau.

Yn ôl Rosemary Thew roedd gan yr asiantaeth gyfrifoldeb i wario arian y cyhoedd mewn modd cyfrifol.

Bydd cyfrifoldebau’r swyddfa yn cael eu trosglwyddo i swyddfeydd yr asiantaeth yn Nottingham a Newcastle-upon-Tyne.

Fe fydd yr asiantaeth yn parhau i ddarparu gwasanaethau drwy’r iaith Gymraeg, meddai.

‘Achub swyddi’

Dywedodd Jenny Willott, Aelod Seneddol Canol Caerdydd, ei bod hi’n siomedig â’r penderfyniad i gau’r swyddfa.

Dywedodd ei bod hi eisiau wedi dweud yn Nhŷ’r Cyffredin y gallai’r gweithwyr symud i un arall o adeiladu’r llywodraeth yn ne Cymru er mwyn arbed costau.

“Rydw i’n credu y byddai wedi bod yn bosib achub swyddi, a thorri costau, rwy symud gweithwyr i un o adeilad gwag y llywodraeth yn ne Cymru,” meddai.

“Er fy mod i’n hapus bod y llywodraeth wedi penderfynu cynnal ryw fath o bresenoldeb yng Nghaerdydd, mae’n bwysig bod gan y swyddfa ddigon o staff i ymdopi â’r galw am wasanaethau iaith Cymraeg a chyfrifoldebau eraill.

“Fe fydda i’n ysgrifennu at yr Adran Trafnidiaeth er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ystyried hynny wrth benderfynu ar faint y swyddfa newydd.”