Mae swyddogion sw yn Tehran wedi gorfod lladd 14 o lewod ar ôl iddyn nhw ddal afiechyd bacteriol heintus, datgelodd un o bapurau newydd y wlad heddiw.

Yn ôl papur newydd dyddiol Jam-e Jam roedd y cathod mawr yn dioddef o lynmeirch – afiechyd sy’n fwy cyffredin mewn ceffylau, mulod ac asynnod.

Mae yn gallu lledu o un anifail sydd wedi ei heintio i anifail neu berson arall.

Dywedodd y Milfeddyg  Houman Moloukpour wrth y papur newydd fod camreolaeth o fewn y sw yn bennaf gyfrifol am orfod lladd y llewod.

Doedd y papur newydd ddim yn dweud pryd y cafodd y llewod eu lladd.

Mae llynmeirch yn anghyffredin yn y Gorllewin, ond yn bla mewn rhannau o Affrica, Asia, y Dwyrain Canol a De America.