Mae’r heddlu wedi enwi’r canŵydd fu farw ar ôl cael ei ddal yn nyfroedd cythryblus yr Afon Ogwen ger Bethesda ddydd Sadwrn.

Roedd Ian William Walsh, 54 oed, o Preston yn Swydd Gaerhirfryn. Daethpwyd o hyd i’w gorff ger Talybont, Bangor.

Fe fu farw yn fuan ar ôl cael ei hedfan i Ysbyty Gwynedd y ddinas.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 12.30pm dydd Sadwrn ar ôl i rywun weld dau ganŵ gwag yn arnofio i lawr yr afon.

Llwyddodd y canŵydd arall i adael yr afon yn saff. Roedd glaw trwm wedi disgyn dros Wynedd yn ystod y penwythnos.