Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi siarad am ei falchder yn ei dîm wedi iddyn nhw sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Norwich ddydd Sadwrn.

Er bod Caerdydd wedi ildio gôl yn y funud olaf i’w gwneud hi’n 1 – 1 ar Carrow Road, roedd Jones yn hapus gyda pherfformiad ei dîm yn erbyn tîm arall sy’n cystadlu am ddyrchafiad.

“Does gen i ddim ond edmygedd tuag atyn nhw, a heddiw roedd eu perfformiad yn gadarn,” meddai Jones.

“Roedden nhw’n anffodus i beidio â chadw gafael ar y tri phwynt ar ôl gweithio mor galed.”

Dechrau da i Parkin

Fe gafwyd dechrau delfrydol i’r Adar Glas, a dechrau delfrydol i’r ymosodwr newydd John Parkin hefyd, wrth iddo sgorio wedi dim ond saith munud yn ei gêm gyntaf i’w glwb newydd.

Rhoddwyd yr ymwelwyr dan bwysau mawr yn ystod y gêm, ond llwyddodd Caerdydd i amddiffyn eu goruchafiaeth tan y funud olaf un.

Roedd Norwich wedi taro’r trawst a gweld dwy apêl gref am giciau cosb yn cael eu gwrthod cyn i’r cefnwr Russel Martin ddod a’r sgôr yn gyfartal yn yr eiliadau olaf.

Abertawe’n neidio uwchben eu cymdogion

Mae’r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn llithro i’r trydydd safle tu ôl i Abertawe oedd yn fuddugol o 3 – 0 yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn.

Er hynny, roedd Jones yn falch iawn o’r canlyniad yn erbyn y tîm sy’n bedwerydd yn y Bencampwriaeth.

“Rydym ni wedi ennill 4 pwynt yn eu herbyn nhw eleni, fyddech chi’n cymryd pedwar pwynt yn erbyn pob tîm yn y gynghrair? Byddech, fe fyddech chi,” meddai Jones.

“Maen nhw i fyny yna (tua’r brig) ac yn ceisio gwneud yr un peth a ni, felly doedden ni byth yn mynd i allu dod yma a chael ein ffordd ein hun.

“Felly a fuaswn i wedi cymryd pwynt cyn y gêm? Wrth gwrs y buaswn i. Ydw i’n siomedig ein bod ni wedi ildio’r gôl? Ydw, oherwydd yr amser y cafodd hi ei ildio, ond mae’n siŵr fod y canlyniad yn un teg ar ddiwedd y dydd.”

Chwaraewr newydd yn “ardderchog”

Wrth droi ei sylw at ei ymosodwr newydd, mae’n amlwg bod Jones yn hapus gyda gêm gyntaf John Parkin hefyd.

“Dim yn ffordd ddrwg i ddechrau gyrfa gyda chlwb newydd. Dwi’n meddwl y bydd y cadeirydd yn ddyn hapus iawn gyda’r hyn mae wedi prynu.

“Dwi’n meddwl ei fod wedi cael gêm ardderchog a dwi’n siŵr y bydd y cefnogwyr yn hapus iawn gyda’r hyn y gwelon nhw.”