Ni fydd safle bysys newydd yn cael ei adeiladu ynghanol Caerdydd nes ar ôl y Gemau Olympaidd, cyhoeddwyd heddiw.

Dyw Cyngor Dinas Caerdydd ddim am i’r brifddinas fod yn “safle adeiladu” pan fydd Stadiwm y Mileniwm yn cynnal wyth o gemau bêl-droed y gystadleuaeth.

Dywedodd penaethiaid trafnidiaeth y brifddinas wrth bapur newydd yr Echo eu bod nhw wedi dysgu gwersi ar ôl cael ei beirniadu am waith ffordd ar Stryd y Castell yn ystod y Cwpan Ryder.

Ychwanegodd cyfarwtddwr Cardiff Bus, David Brown, fod y buddsoddiad yn hanfodol er mwyn atal traffig rhag “tagu” y ddinas.

Mae disgwyl i’r galw am drafnidiaeth gyhoeddus gynyddu 25% yno dros y ddegawd nesaf, meddai.

“Mae’r ddinas yn llawn dop o ran traffig ac os ydyw’n parhau i dyfu rhaid rhoi blaenoriaeth i drafnidiaeth gyhoeddus, neu fe fydd yna dagfeydd parhaol,” meddai.

“Fe hoffen ni weld y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted a bo modd, ond rydyn ni’n sylweddoli ei fod yn bosib na fydd hynny’n digwydd oherwydd y Gemau Olympaidd.”